Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Hydref 2024

Amser: 09.00 - 09.56
 


Remote/ Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

Alun Davidson

Lisa Griffiths, Clerc Gweithdrefnau, Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

 

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cytunwyd y gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w gyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y ddadl fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

</AI4>

<AI5>

3.2   Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 15 Hydref 2024

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd (45 munud)

 

Dydd Mawrth 22 Hydref 2024

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Y Strategaeth Addasu Hinsawdd (45 munud)

·         Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 (5 munud)

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2024 -

 

 

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024 -

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Datganodd Heledd Fychan fuddiant ar ôl cyflwyno un o'r cynigion arfaethedig i'w ddethol.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 16 Hydref:

 

Heledd Fychan

NNDM8687 

Cynnig bod y Senedd:  

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: 

a) ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r broses gynllunio; 

b) gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol; ac 

c) darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

 

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth a ddaeth i law ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru), ynghyd â meini prawf penderfynu ar geisiadau am amserlenni cyflym.

 

Nododd Darren Millar a Heledd Fychan nad oedd y rhesymeg a ddarparwyd gan y Llywodraeth yn bodloni'r meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer amserlen gyflym ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Dywedodd y Trefnydd fod y Llywodraeth wedi cynnig yr hyn yr oedd yn ei deimlo oedd yn briodol, yn hytrach nag amserlen gyflym ar gyfer Cyfnod 1, yng ngoleuni natur dechnegol y Bil ac y byddai gydag amharodrwydd yn gallu cytuno i symud i eisteddiad deg wythnos ar gyfer Cyfnod 1.

 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid diwygio'r amserlen i ddarparu deuddeg wythnos ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, ac y dylid ystyried y mater yn ymwneud ag a ddylai fod rhagor o hyblygrwydd o ran hyd priodol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar gyfer gwahanol Filiau, fel rhan o'r adolygiad sydd ar y gweill o'r broses ar gyfer Biliau cyhoeddus.

</AI9>

<AI10>

4.2   Meini prawf gwneud penderfyniadau ar geisiadau i gyflymu'r amserlenni ar gyfer Biliau'r Senedd

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd y dylai'r pwyllgor newydd arfaethedig gael ei alw'n Bwyllgor Senedd y Dyfodol / Future Senedd Committee.

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth bellach ar union gylch gwaith Pwyllgor Senedd y Dyfodol a chytunodd i ystyried rhai mân newidiadau a chytuno arnynt, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadarnhau aelodaeth y Pwyllgor i'r ysgrifenyddiaeth ac i gynnig yn cynnig sefydlu'r pwyllgor gael ei osod i'w ystyried gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Hydref.

</AI10>

<AI11>

4.3   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

</AI11>

<AI12>

4.4   Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Amserlen y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

</AI12>

<AI13>

5       Gwaith Gweithdrefnol

</AI13>

<AI14>

5.1   Cynnig cylch gwaith drafft ar gyfer pwyllgor newydd mewn ymateb i Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Senedd (Cymraeg i ddilyn)

Business Committee considered the paper and agreed that the proposed new committee should be titled the Future Senedd Committee/Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

 

Business Committee had a further discussion of the precise remit for the Future Senedd Committee and agreed to consider and agree some minor changes outside of the meeting.

 

Business Managers agreed to confirm the membership of the Committee to the secretariat and for a motion proposing the establishment of the committee to be laid for consideration by the Senedd in Plenary on Wednesday 16 October.

</AI14>

<AI15>

5.2   Rhannu swydd Cadeirydd Pwyllgor: crynodeb o dystiolaeth cam 1 a datblygu cynigion manwl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus cam 1 a chytunodd i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cam 2 gydag Aelodau o'r Senedd a chyrff eraill.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

 

 

 

 

 

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>